Genesis 50:3

Mae safle uchel Joseff yn yr Aifft i’w weld yn y trefniadau wnaethpwyd ar gyfer angladd ei dad Jacob.  Cafodd corff ei dad, Jacob, ei falmeiddio, a teithiodd uchel-swyddogion yr Aifft i gyd yr holl ffordd i wlad Canaan i’w gladdu.  Mae’n debyg mai cyfeiriad sydd yma at y broses o fymïo’r corff, fel oedd yn arfer cael ei wneud i frenhinoedd a chyfoethogion eraill yr Aifft.