Gwlad Groeg

 

• Gwlad yn ne ddwyrain cyfandir Ewrop. Mae’n cynnwys gorynys hir yn ymwthio i Fôr y Canoldir a nifer o ynysoedd gan gynnwys Creta a Rhodos. Mae’n wlad fynyddig a ffrwythlon. Mae’r hinsawdd yn gynnes ac yn heulog. Mae’n ffinio gyda gwlad Bwlgaria, Albania a Gwlad Twrci. Prifddinas Gwlad Groeg ydy Athen.
• Mae hen, hen hanes i wlad Groeg, ac mae hanes eu duwiau mytholegol e.e. Zeus, Jason, Wlysses, ac Odyseus yn dal yn boblogaidd. Mae Gwlad Groeg yn enwog iawn oherwydd dyma lle ddechreuodd y gemau Olympaidd.
• Mae hanes hir o ryfela gan Wlad Groeg
- yn erbyn Troas yn y 12 / 13 ganrif C.C.
- yn erbyn Ymerodraeth Persia 500 – 449 C.C.
- yn erbyn Sparta yn 431 – 404 C.C.
Yna daeth Alecsander Fawr (336-146 C.C.) yn arweinydd ar y Groegiaid, a dechreuodd cyfnod euraidd, sef y cyfnod Helenistaidd pan ymledodd dylanwad a diwylliant Gwlad Groeg ymhell.
• Cafodd Gwlad Groeg ei choncro gan y Rhufeiniaid yn 146 CC. Rhannodd y Rhufeiniaid y wlad yn rhanbarthau e.e. Macedonia, Achaia.
• Gweithiodd Paul yn arbennig o galed i ddod â’r Efengyl i ddinasoedd gwlad Groeg.
(gweler Actau 20)