Hermes

 

Cristion o Rufain. Cymeriad yn y Testament Newydd o gyfnod yr Eglwys Fore. Mae o’n un o grŵp o bobl mae Paul yn anfon ei gyfarchion atyn nhw ar ddiwedd ei lythyr at y Rhufeiniaid.
(gweler Rhufeiniaid 16:14)
 

 

Roedd Hermes yn yn un o dduwiau’r Groegiaid. Enw y Rhufeiniaid arno oedd Mercurius (Mercury). Roedd Hermes yn fab i Zeus a Maia, ac yn byw ar Fynydd Olympus. Mae’n cael ei ddarlunio fel dyn ifanc hefo adenydd bach ar ei draed i’w helpu i symud yn gyflym o un lle i’r llall, a’i waith oedd cario negeseuon i’r duwiau eraill. Mae’n cael ei enwi yn y Testament Newydd oherwydd yr hyn ddigwyddodd yn Lystra ar daith genhadol gyntaf Paul a Barnabas. Ar ôl gweld y ddau apostol yn iachau dyn cloff, mae’r bobl yn meddwl eu bod nhw’n dduwiau wedi dod i lawr i’r ddaear. Maen nhw’n galw Barnabas yn Zeus, a Paul yn Hermes. Roedd teml i Zeus yn Lystra.
(gweler Actau 14:12)