Herod Agripa

 

• Mab Aristobwlus, ac ŵyr i Herod Fawr (oedd yn teyrnasu pan gafodd Iesu ei eni)
Cafodd y teitl ‘brenin’ gan yr Ymerawdwr Gaius (Caligula) – teyrnasai dros diroedd i’r gogledd-ddwyrain o Israel i ddechrau, ac yna dros Galilea a Perea. Yna pan ddaeth Claudius yn Ymerawdwr yn 41 O.C. cafodd y cyfrifoldeb dros Jwdea a Samaria hefyd.
• Herod Agripa 1 orchmynodd ddienyddio Iago (brawd Ioan), a charcharu nifer o Gristnogion, (gan gynnwys Pedr)
(gweler Actau 12:1-4, 19-23; 23:35; hefyd HEROD; COEDEN DEULUOL TEULU HEROD)