Mae’r Cristion yn gallu bod yn llawen yn wyneb treialon achos mae ymateb i’r treialon yn y ffordd iawn yn cryfhau ffydd ac yn ei wneud yn benderfynol o ddal ati (Rhufeiniaid 5:3-4). Mae Duw yn rhoi doethineb ysbrydol i ni (Diarhebion 9:10) ac mae’n ei gwneud yn bosibl i ni weld ein hamgylchiadau o'i safbwynt e. Mae'n gosod cyfoeth a thlodi mewn goleuni gwahanol, a dyn ni’n cael ein hatgoffa mai bendithion da sy'n dod oddi wrth Dduw ac mai o'r cnawd mae temtasiynau’n dod (chwant - pechod - marwolaeth) [Ein helpu i ddelio â themtasiwn mae Duw - cf.1 Corinthiaid 10:13].