Un o negeseuon mwyaf pwysig Iago ydy fod y newyddion da yn dwyn ffrwyth ymarferol yn ein bywydau ni (cf. Mathew 7:24-27). Mae fel drych yn ei gwneud yn bosibl i ni i weld beth sydd angen ei newid. Does dim lle i wylltio, nac i anfoesoldeb na drygioni. Dylai'r Cristion reoli ei dafod bob amser (cf.3:1-12).
Nid allanolion crefydd sy'n plesio Duw, ond cariad at bobl mewn angen (cf.Jeremeia 22:16) a bywyd sy'n gwrthod derbyn gwerthoedd y byd (1 Ioan 2:15-17).