Cymeriad yn y Testament Newydd o gyfnod bywyd Iesu a chyfnod yr Eglwys Fore. Iago, brawd Iesu, gafodd ei eni i Mair a Joseff ar ôl geni Iesu. Mae’n cael ei enwi gyda tri brawd arall – Joseff, Simon a Jwdas (awdur llythyr Jwdas mae’n debyg). Dim ond ar ôl yr Atgyfodiad daeth Iago i gredu yn Iesu, pan welodd fod ei frawd Iesu, gafodd ei groeshoelio, yn fyw eto. Cyn hynny roedd yn meddwl bod ei frawd yn wallgo (Marc 3:21; Ioan 7:3-5) Daeth Iago yn arweinydd yn yr eglwys yn Jerwsalem, a fe oedd yn llywyddu pan ddaeth y Cristnogion at ei gilydd yno i drafod oedd angen i Gristnogion o genhedloedd eraill ufuddhau i holl ofynion Cyfraith Moses, yn arbennig cyfraith enwaediad. Mae traddodiad yn dweud bod Iago wedi cael ei labyddio (taflu cerrig at berson) i farwolaeth tua 61-62 O.C. Mae llawer hefyd yn credu fod Iago brawd Iesu wedi ysgrifennu llythyr Iago.
(gweler Mathew 13:55; Marc 6:3; Actau 12:17; 15:13; 21:18; 1 Corinthiaid 15:7; Galatiaid 1:19; 2:12; Iago 1:1)
Mae rhai yn credu mai cyfeiriad at Fair, mam Iesu sydd yn Mathew 27:56 a Marc 16:1, ac felly Iago brawd Iesu ydy’r Iago yma. Mae'n bosib felly mai brawd Iesu oedd Iago bach y cyfeirir ato yn Marc 15:40. Ond mae eraill yn credu mai cyfeiriad at Mair gwraig Clopas sydd yma (Ioan 19:25), ac felly mai rhyw Iago arall ydy e, a bod Iago bach yn cyfeirio at Iago fab Alffeus.
(gweler Mathew 27:56; Marc 15:40; 16:1)