Rhoi tystiolaeth am Iesu oedd gwaith Ioan Fedyddiwr (adn.7,8;10:41); paratoi'r ffordd ar gyfer un mwy oedd i ddod ar ei ôl. Mae'n dyfynnu Eseia 40:3 i ddisgrifio'i weinidogaeth.
Roedd yn tystio ei fod wedi gweld yr Ysbryd yn disgyn ar Iesu (cf. bedydd), ac mae'n disgrifio Iesu fel Oen Duw (cf.Exodus 29:38-46; Eseia 53:4-12).