In 21:1-25

 

Tybed a oedd Pedr yn ystyried mynd yn ôl i'w hen waith? Roedden nhw wedi bod yn pysgota drwy'r nos a methu dal dim, ond mae Iesu Grist yn sicrhau dalfa wyrthiol. Wrth iddo ail-gomisiynu Pedr y cwestiwn allweddol ydy cariad Pedr at ei Arglwydd.
Yna i gloi'r Efengyl mae cyfeiriadau at farwolaeth Pedr ac Ioan.