Brawd Iago, mab Sebedeus
Cymeriad yn y Testament Newydd o gyfnod bywyd Iesu a chyfnod yr Eglwys Fore. Pysgotwr oedd Ioan i ddechrau, yn gweithio gyda’i frawd Iago mewn busnes teuluol llwyddiannus (yn cyflogi gweision) gyda’u tad Sebedeus. Roedden nhw’n ffrindiau ac yn bartneriaid gyda dau frawd arall, Simon Pedr ac Andreas. Dyma’r pedwar gafodd eu galw gyntaf gan Iesu i fod yn ddisgyblion iddo. Rhoddodd Iesu y llysenw “meibion y daran” i Ioan a’i frawd achos eu bod nhw’n wyllt a byrbwyll weithiau. Ioan a Pedr drefnodd y Swper olaf, ac yn ystod y croeshoeliad gofynnodd Iesu i Ioan ofalu am ei fam. Ioan oedd un o’r cyntaf i weld y bedd agored a chredu yn yr atgyfodiad. Aeth ymlaen i fod yn arweinydd yn yr Eglwys Fore – mae Paul yn ei lythyr at y Galatiaid yn disgrifio Ioan, Pedr a Iago brawd Iesu fel prif arweinwyr yr eglwys yn Jerwsalem.
Yn llyfr yr Actau mae Ioan gyda Pedr wrth y Fynedfa Hardd yn iacháu’r dyn cloff. Mae son amdano’n dioddef carchar ac erledigaeth, a dywedir hefyd ei fod yn cadw golwg ar waith yr eglwys ymhlith pobl Samaria.
(gweler Mathew 4:21; 10:2; 17:1; Marc 1:19,29; 3:17; 5:37; 9:2,38; 10:35,41; 13:3;14:33; Luc 5:10; 6:14; 8:51; 9:28,49,54; 22:8; Actau 1:13; 3:1- 4,11; 4:13,19; 8:14-17;12:2; Galatiaid 2:9)