Jona y proffwyd

 

Jona y proffwyd. Ystyr yr enw ydy “colomen”. Cymeriad yn yr Hen Destament gafodd ei alw gan Dduw yn ystod cyfnod y Deyrnas Ranedig i fynd â neges i bobl Ninefe. Roedd yn proffwydo tua 785 – 775 C.C. Mae ei hanes cyffrous i’w gael yn llyfr Jona. Dyma brif ddigwyddiadau’r llyfr
• Duw yn galw Jona i fynd i Ninefe. Jona yn mynd i Jopa ac yn bwriadu hwylio oddi yno mewn llong i Tarsis er mwyn osgoi mynd i Ninefe.
• Storm fawr yn codi ar y môr.
• Jona yn cael ei daflu i’r dŵr.
• Duw yn achub Jona drwy wneud i bysgodyn mawr ei lyncu.
• Treulio tri diwrnod ym mol y pysgodyn, yna’n cael ei chwydu allan ar draeth.
• Gweddïo mewn diolchgarwch
• Jona yn mynd i Ninefe ac yn pregethu neges Duw
• Pobl Ninefe yn dweud wrth Dduw eu bod nhw’n sorri
• Jona yn pwdu oherwydd bod Duw ddim wedi cosbi pobl Ninefe. Duw yn dysgu gwers iddo gyda choeden a pryf.
(gweler 2 Brenhinoedd 14:25; llyfr Jona; Mathew 12:39-41; 16:4; Luc 11:29-32)