Mae Jwdas yn ysgrifennu i annog ei ddarllenwyr i wneud safiad dros y gwirionedd, oherwydd fod gau-athrawon wedi llithro i mewn i'r Eglwys ac yn arwain pobl ar gyfeiliorn.
Mae'n atgoffa ei ddarllenwyr fod Duw yn y gorffennol wedi barnu’r rhai oedd yn anufudd. Mae barn Duw ar y gau athrawon hyn yr un mor sicr – ac mae'n siarad am broffwydoliaeth o lyfr Enoch (Llyfr sy ddim yn y Beibl) i brofi ei bwynt.