Mae e’n gofyn i’r Cristnogion gofio fod cynrychiolwyr Iesu Grist (yr apostolion) wedi rhybuddio'r Eglwysi y byddai gau broffwydi yn codi (cf. Actau 20:29; 2 Timotheus 3:1-5).
Y ffordd i wneud safiad yn eu herbyn nhw ydy drwy dyfu’n ysbrydol, gweddïo, a byw’r bywyd sy'n gallu cadw a chynnal pobl i dragwyddoldeb.