• Tir Jwda. Ystyr yr enw Jwdea ydy tir Iddewig.
• Yn yr Hen Destament, dyma lle setlodd llwyth Jwda (mab Jacob) wedi’r exodus o’r Aifft o dan arweiniad Moses. Mae’r tir yn ne Israel.
• Roedd yn rhan bwysig o wlad Israel oherwydd bod Jerwsalem, prifddinas y wlad, a’r Deml yn Jwdea.
• Ar ôl marwolaeth y brenin Solomon, roedd gwrthryfel, a rhannodd Israel yn ddwy deyrnas – Israel i’r gogledd, a Jwda i’r de.
• Erbyn cyfnod geni Iesu, y brenin Herod oedd yn rheoli ardal o’r enw Jwdea ar ran y Rhufeiniaid.
• O dan y Rhufeiniaid, roedd gwlad Israel wedi ei rhannu yn dair ardal – Jwdea (yn y de), Samaria (yn y canolbarth) a Galilea (yn y gogledd).
(gweler Mathew 2:1,5; 3:1,5; 4:12,25; 19:1; 24:16; Marc 1:5; 3:8; 10:1; 13:14; Luc 1:5, 39, 65: 2:4: 3:2; 4:44; 5:17; 6:17; 7:17; 21:21; 23:5, 50; Ioan 3:22; 4:3, 47; 7:1, 3; 8:22; 11:7,8,19, 31, 33,36,45,54; 12:9,11; Actau 1:8;2:9; 8:1; 9:31; 10:37; 11:1,29; 12:19; 15:1; 21:10; 26:20; 28:21; Rhufeiniaid 15:31; 2 Corinthiaid 1:16; Galatiaid 1:22; 1 Thesaloniaid 2:14)