Cymeriad yn y Testament Newydd o gyfnod yr Eglwys Fore. Cenedl-ddyn (rhywun sydd ddim yn Iddew) oedd Luc mae’n debyg (gw. Colosiaid 4:11,14). Unig awdur y Testament Newydd nad oedd yn Iddew.
• Mae Paul yn sôn amdano fel “y meddyg annwyl” (Colosiaid 4:14), ac mae tystiolaeth yn ei lyfrau (Efengyl Luc a Llyfr yr Actau) sy’n awgrymu’n gryf ei fod yn feddyg.
• Mae’n ysgrifennu mewn Groeg graenus iawn sy’n dangos ei fod o’n ddyn dysgedig. Roedd hefyd yn gyfarwydd hefo diwylliant a thraddodiadau Groegaidd ac Iddewig.
• Daeth Luc yn ffrind i Paul. Teithiodd ar yr ail a’r drydedd daith genhadol i wlad Groeg a Twrci. Yn aml iawn yn llyfr yr Actau mae’n defnyddio’r person cyntaf lluosog (‘ni’) wrth adrodd yr hanes (gw. Actau 16:10-17; 20:5-21:18; 27:1-18:16).
• Trwy Paul, cafodd Luc glywed profiadau a thystiolaeth rhai o brif gymeriadau’r Eglwys Fore a threulio amser yn eu cwmni. Roedd yn adnabod Ioan Marc, awdur Efengyl Marc, ac mae llawer o ysgolheigion yn credu ei fod wedi defnyddio efengyl Marc wrth ysgrifennu ei efengyl ei hun.
• Aeth Luc gyda Paul ar ei daith olaf i Rufain, gan aros yn gwmni iddo tra roedd yng ngharchar yno.
(gweler Actau 16; 17; Colosiaid 4:14; 2 Timotheus 4:11; Philemon 24)