Mae angel yn ymddangos i Sechareia'r offeiriad pan oedd ei dro e wedi dod i losgi'r arogldarth yn y deml, (cyfle y byddai offeiriad ond yn ei gael unwaith yn ei oes). Mae'r angel yn dweud fod ei weddi am fab wedi ei hateb. Byddai gan ei fab weinidogaeth rymus (byddai'n cyflawni proffwydoliaeth Malachi 4:5-6).
Ond gan iddo fethu credu'r hyn a glywodd byddai Sechareia yn cael ei hun yn fud a byddar (adn.20,62) hyd nes i neges yr angel ddod yn wir.