Luc 10:1-24

 

Roedd y cynhaeaf mor fawr, ac mae Iesu'n anfon 72 o’i ddilynwyr allan bob yn ddau, gyda'r un cyfarwyddiadau ag a roddoddd i'r deuddeg (cf.9:1-6).
Mae ymateb pobl i'r neges yn bwysig iawn, ac mae Iesu'n sôn am y farn fyddai’n dod ar rai trefi am iddyn nhw ei wrthod byddai trefi’r gwledydd paganaidd o amgylch Israel wedi ymateb yn fwy cadarnhaol! Pan ddaeth y 72 yn ôl roedden nhw’n llawn brwdfrydedd oherwydd beth oedd Duw wedi ei wneud trwyddyn nhw. Mae Iesu'n gorfoleddu oherwydd ei fod yn gweld Satan yn syrthio.
Mae'n llawenhau fod Duw yn datguddio'r gwirionedd i bobl ddi-nod (sef y bobl hynny sydd ddim yn bwysig yng ngolwg y byd).