Luc 10:25-11:13

 

Ar ôl ateb yn gywir beth oedd dysgeidiaeth ganolog y Gyfraith (cf.Deuteronomium 6:5 a Lefiticus 19:18) mae'r dyn oedd yn holi Iesu eisiau esboniad manwl o pwy ydy'r ‘cymydog’ mae e i fod i'w garu. Wrth bwysleisio mai'n cyfrifoldeb ni ydy bod yn ‘gymydog’ i unrhyw un sydd mewn angen, mae Iesu hefyd yn dangos ei bod yn bosibl i Samariad fod yn nes at fyw fel mae Duw eisiau na'r Iddew crefyddol.
Yng nghartre Mair a Martha mae'r gwahaniaeth rhwng y ddwy chwaer yn dangos mai beth mae Iesu’n ei ddysgu i ni sy'n cyfri, nid beth dyn ni’n gallu ei wneud i Iesu.
Yna dyn ni’n cael Iesu yn dysgu ei ddisgyblion i weddïo, ac i ddal ati i weddïo.