Luc 11:14-54

 

Roedd rhai yn credu mai pŵerau dieflig oedd y tu ôl i allu Iesu i wneud gwyrthiau. Ond roedd awgrymu fod Satan yn ymosod ar ei weision ei hun yn ffolineb llwyr!
Y gwir oedd fod awdurdod Iesu'n dangos fod ei deyrnasiad wedi dechrau. Roedd Iddewon eraill yn dweud eu bod nhw’n bwrw allan gythreuliaid, ond roedd eu gwaith nhw’n aneffeithiol achos doedd yr Ysbryd Glân ddim yno i lenwi'r bwlch wedyn.
Mae Iesu eto'n dweud y byddai Ninefe baganaidd a Brenhines Seba yn cael eu cyfri'n fwy cyfiawn na'r Iddewon oedd yn gwrando arno, achos roedd dinas Ninefe a Brenhines Seba wedi ymateb i waith Duw.
Yna mae Iesu'n rhybuddio pobl rhag bod yn ystyfnig a rhag dallineb ysbrydol. Yng nghartref y Pharisead mae’n ceryddu'r arweinwyr crefyddol am wneud duwioldeb allanol (arwynebol) yn fwy pwysig na chalon lân. Roedd hynny’n digwydd achos eu bod nhw’n falch ac yn ystyried y pethau anghywir yn bwysig. Mae'n mynd mor bell â dweud fod pobl sy'n dod i gysylltiad â nhw yn cael eu llygru (adn.44; cf.Numeri 19:16)! Mae'n beirniadu athrawon y Gyfraith hefyd, am eu bod nhw’n euog o wneud pethau’n anodd i bobl yn lle eu helpu'n nhw’n ysbrydol. Er eu bod nhw’n anrhydeddu'r proffwydi roedden nhw’n dangos mai plant i'r bobl wnaeth erlid y proffwydi oedden nhw go iawn (am eu bod yn gwrthod y Meseia). Roedden nhw’n rhwystr rhag i bobl ddeall gwirioneddau Duw.