Luc 24:1-53

 

Yn yr hanesion hyn am atgyfodiad Iesu Grist mae pwyslais mawr ar y ffaith ei fod yn atgyfodiad corfforol (bedd gwag, torri bara - adn.30, cyffwrdd a bwyta - adn.39-43)
Gwragedd oedd y tystion cyntaf i atgyfodiad Iesu Grist! Yna dyn ni’n cael hanes y ddau ar y ffordd i Emaus a Iesu'n esbonio'r ysgrifau sanctaidd (Ysgrythurau’r Iddew) iddyn nhw, ac yn cyfeirio at y pethau oedd wedi eu proffwydo amdano ynddyn nhw. Maen nhw’n ei adnabod e wrth iddo dorri'r bara. Ymddangosodd i Pedr (adn.34; 1 Corinthiaid 5:5). Yna yr un noson mae'n ymddangos i'r disgyblion eraill.
I gloi'r Efengyl dyn ni’n cael hanes y comisiwn i bregethu'r newyddion da i'r holl genhedloedd, a’i esgyniad yn ôl i’r nefoedd (chwe wythnos yn ddiweddarach). [cf.Actau 1:6-11].