Roedd Iesu'n teithio oddi amgylch gyda'r deuddeg. Roedd nifer o wragedd oedd wedi credu ynddo yn eu cynnal.
Wrth esbonio dameg yr heuwr mae Iesu'n dweud fod deall cyfrinachau teyrnasiad Dduw yn dod drwy ddatguddiad. Mae dameg y goleuni dan lestr yn pwysleisio pwysigrwydd gwrando ar Iesu, achos ryw ddydd bydd popeth yn dod i’r golwg. Mae'r rhai sy’n gwrando ar Iesu ac yn credu beth mae’n ei ddweud mor bwysig â pherthnasau agos.