Luc 9:1-27

 Mae Iesu'n anfon ei apostolion allan, ac yn rhoi awdurdod iddyn nhw i bregethu ac i iacháu. Roedd gan bobl bob math o syniadau am Iesu, ac mae'r wyrth o fwydo'r miloedd yn dangos rhywbeth o'i allu. Mae’n paratoi’r ffordd ar gyfer cyffes Pedr.
Mae Iesu'n esbonio ei fod yn mynd i farw, ac wedi hynny atgyfodi, ac mae’n mynd ymlaen wedyn i ddangos y dylai ei ddilynwyr fod yn barod i ddioddef hefyd. Mae dilyn Iesu yn galw am hunanaberth, ymroddiad llwyr ac ufudd-dod.