Luc 9:28-50

 

Yn ysgrifau sanctaidd yr Iddewon (yr ‘Hen Destament’) mae hanes Josua yn gorffen gwaith Moses o arwain y genedl o gaethiwed yr Aifft i wlad yr addewid (yr exodus). Yma mae Moses ac Elias yn siarad gyda Iesu (Hebraeg – Josua) am ei ‘ymadawiad’ (Groeg - exodus) sef ei farwolaeth a'i atgyfodiad. Roedd yn mynd i achub pobl a’i harwain nhw i ryddid o gaethiwed pechod (Ystyr Josua / Iesu ydy ‘mae'r ARGLWYDD yn achub’). Mae Duw yn dweud yn glir mai Iesu oedd ei Fab, a dylai pawb wrando arno.
Mae Iesu'n iacháu bachgen oedd yn dioddef o epilepsi o ganlyniad i ddylanwad ysbryd aflan. Yna mae'n pwysleisio eto ei fod yn mynd i ddioddef, ond doedd y disgyblion yn dal ddim yn deall go iawn. Dyn ni’n gweld hyn yn y ffordd roedden nhw’n dadlau pwy oedd y mwya pwysig (adn.46-48) a'r ffordd roedden nhw wedi trin y dyn oedd yn bwrw allan gythreuliaid yn enw Iesu (adn.49-50).