Lyda

 

• Tref tua 2 neu 3 milltir i’r gogledd o’r ffordd rhwng Jopa a Jerwsalem, tua 12 milltir o Jopa.
• Mae rhai yn meddwl mai’r un lle ydy Lyda a Lod yn yr Hen Destament. Mae hefyd wedi cael yr enwau Diospolis, a Ludd dros y blynyddoedd.
• Cafodd y dref ei llosgi yn amser yr ymerawdwr Nero.
• Ar ôl i Jerwsalem gael ei dinistrio yn 70 O.C. daeth Lyda yn ganolfan rabinaidd am gyfnod. Dyma lle roedd y Rabïaid Iddewig (yr athrawon) yn dod at ei gilydd i astudio, rhannu syniadau a dysgu.
• Roedd gan yr Eglwys Gristnogol esgob yn gynnar yn ei hanes yn Lyda.
• Yn ôl traddodiad cafodd nawddsant Lloegr, Sant Sior (George) ei eni yma.
(gweler Actau 9:32, 35, 38)