Lystra

 

• Trefedigaeth Rufeinig, 20 milltir i’r de orllewin o Iconium a 130 milltir o Antiochia.
• Daeth Paul yma ar ôl bod yn Iconium. Ar ôl i Paul iacháu person yno, dechreuodd pobl Lystra feddwl ei fod yn dduw pwysig.
• Mae safle Lystra mewn ardal anial, agos at dre fodern Hatun Sarai yng ngwlad Twrci.
• Mae lle i gredu bod cartref Timotheus yn Lystra.
(gweler Actau 14:6, 8, 21; 16:1, 2; 2 Timotheus 3:11)