Mathew 5:22

Mae’r gair ‘idiot’ yn beibl.net yn cyfieithu’r gair ‘raca’ yn y Roeg.  Mae llawer yn credu ei fod yn tarddu o’r gair Hebraeg ‘reca’ sy’n golygu rhywun dwl heb ddim yn ei ben.  Mae rhai yn credu ei fod yn cyfeirio at agwedd negyddol at bobl hoyw, e.e. trwy alw dyn yn ‘bansi’ neu ‘gadi-ffan’.