Ar ôl dweud beth ydy thema ei Efengyl - sef mai Iesu ydy'r Meseia, Mab Duw, mae Marc yn darlunio Ioan Fedyddiwr fel yr un a ddaeth i baratoi'r ffordd ar gyfer dyfodiad y Meseia (cf.Malachi 3:1; Eseia 40:3).
Pan gafodd y Mab ei fedyddio, mae Duw'r Tad yn ei gyfarch, a'r Ysbryd Glân yn disgyn arno. Yna mae'r Ysbryd yn ei arwain i'r anialwch - roedd yn cael ei demtio gan Satan, ac mewn perygl o achos yr anifeiliaid gwyllt, ond roedd angylion Duw yn gofalu amdano.