Mc 11:27-12:44

 

Hanesion am y gwrthdaro rhwng Iesu â’r awdurdodau crefyddol sydd yma. Mae'r arweinwyr crefyddol yn herio Iesu i ddweud o ble roedd ei awdurdod yn dod. Pa hawl oedd ganddo i wneud llanast yn y deml? Ond mae Iesu'n dangos eu rhagrith nhw, ac yna mae'n adrodd dameg oedd yn dangos ei fod y deall yn iawn eu bod nhw eisiau ei ladd. Roedd neges y ddameg yn gwbl glir iddyn nhw (adn.12).
Pan geisiodd y Phariseaid a chefnogwyr Herod drapio Iesu eto, gwelwn fod ei ddoethineb e’n drech na nhw; yna pan geisiodd y Sadwceaid wneud hwyl ar ben y syniad o atgyfodiad y meirw, mae Iesu'n esbonio natur yr atgyfodiad iddyn nhw ac yn dangos fod yr ysgrifau sanctaidd oedden nhw eu hunain yn derbyn eu hawdurdod (sef Pum Llyfr Moses) yn dysgu fod atgyfodiad. Mae'n dangos iddyn nhw mai'r broblem sylfaenol oedd eu bod nhw ddim yn deall yr ysgrifau sanctaidd, nac yn credu yng ngallu Duw.
Ond yng nghanol yr holl wrthwynebiad a’r amharodrwydd i gredu ynddo dyn ni’n cael hanes un o athrawon y Gyfraith oedd yn dangos fod ganddo rywfaint o ddealltwriaeth ysbrydol.
Wrth ddysgu yn y deml mae Iesu'n dangos fod y Meseia'n fwy na mab i’r brenin Dafydd – roedd y brenin Dafydd yn ei alw'n Arglwydd. Yna mae'n rhybuddio pobl rhag sioe allanol a balchder crefydda athrawon y Gyfraith, a hefyd rhag pobl gyfoethog yn gwneud sioe wrth roi arian i goffrau’r deml. Mae gwrthgyferbyniad trawiadol yma rhwng defosiwn ac aberth y weddw dlawd, a’r hanesion cynharach am ragrith a gwrthwynebiad yr arweinwyr crefyddol.