Mc 12:15

 

Denarius (‘un darn arian’) oedd y cyflog arferol labrwr am ddiwrnod o waith. Dyna fyddai cyflog milwr Rhufeinig hefyd.

Darn arian Rhufeinig oedd denarius, gyda llun o’r Ymerawdwr Tiberiws ar un ochr, a geiriau Lladin ar yr ochr arall yn dweud “Tiberiws Cesar Awgwstws, mab yr Awgwstws dwyfol”