Mc 12:42

 

'dwy lepta' sydd yn y Groeg. Darn arian Iddewig oedd y lepta, sef y darn arian lleiaf oedd mewn cylchrediad yn y cyfnod yma. Doedd ond yn werth 1/128 o ddenariws.

Yna mae Marc yn esbonio fod 'dwy lepta' yn werth un 'cwadrans', sef y darn arian Rhufeinig lleia (yn werth 1/64 o ddenariws). I geisio mynegi mor fach oedd o, mae beibl.net yn ei gyfieithu fel 'oedd yn werth dim byd bron'.