Yn yr adnodau yma mae Micha yn chwarae gyda geiriau – mae’n defnyddio enwau gwahanol drefi Israel i rannu ei neges am y ffordd y byddai Duw yn defnyddio byddin Assyria i’w cosbi am eu hanufudd-dod. Mae enw’r lle yn swnio’n debyg i ryw air arall fyddai’n dod i’r meddwl wrth ddarllen y llinellau. Dyma rai o’r enwau mae’n chwarae gyda nhw:
- ‘Gath’ sy’n swnio fel y gair Hebraeg am ‘dweud’
- ‘Beth-leaffra’ sy’n golygu ‘Tŷ’r llwch’
- ‘Shaffir’ sy’n golygu ‘hardd’ neu ‘hyfryd’
- ‘Saänan’ sy’n swnio fel yr Hebraeg am ‘un sy’n mynd allan’
- ‘Beth-haetsel’ sy’n golygu ‘Tŷ wrth ymyl un arall’ (sy’n awgrymu ‘un sy’n helpu’)
- ‘Maroth’ sy’n swnio fel y gair Hebraeg am ‘chwerw’
- ‘Lachish’ sy’n swnio fel y gair Hebraeg am ‘tîm’ neu ‘gwedd’ (o geffylau). Caer lle roedd ceffylau a cherbydau rhyfel yn cael eu cadw oedd Lachish.
- ‘Moresheth-gath’ sy’n swnio fel yr Hebraeg am ‘anrheg dyweddïo’ (pan mae’r briodferch ar fin gadael tŷ ei thad).
- ‘Achsib’ sy’n golygu ‘twyllodrus’ neu ‘siomedig’
- ‘Maresha’ sy’n swnio fel y gair Hebraeg am ‘concwerwr’