Mth 1:1-16
Mae gwahaniaethau rhwng rhestr achau Iesu yn efengyl Mathew (1:2-16), a’r rhestr yn efengyl Luc (3:23-38). Mae Mathew yn dechrau gydag Abraham, tad yn genedl Iddewig. Mae Luc yn gweithio tuag yn ôl, ac yn olrhain achau Iesu yr holl ffordd i Adda, ‘tad’ y ddynoliaeth. Mae’r rhestrau o Abraham i Dafydd bron yr un fath, ond o Dafydd ymlaen maen nhw’n wahanol iawn. Mae Mathew yn olrhain yr achau drwy Joseff, a Luc yn eu holrhain drwy Mair. |