Wrth iddo ddysgu pobl drwy adrodd straeon am y deyrnas, doedd methiant pobl i ddeall ddim yn digalonni Iesu. Roedd y proffwydi wedi rhagweld y cwbl.
Mae'r newyddion da yn cael ei gyhoeddi - ond dydy rhai pobl ddim yn gweld nac yn deall, dydy eraill ddim yn fodlon wynebu'r gost, ac mae cyfoeth a blaenoriaethau hunanol yn rhwystr i eraill. Ond mae calonnau rhai pobl fel tir da, ac mae'r neges sy’n cael ei hau yn dwyn ffrwyth.
Bydd chwyn (wedi eu plannu gan y gelyn i beri dryswch) yn tyfu gyda'r ŷd. Bydd rhwyd y deyrnas yn dal pob math o bobl, ond bydd y gwir a'r gau yn cael eu gwahanu ryw ddydd (cf.1 Corinthiaid 4:5).
Er bod y dechrau'n fach, mae lledaeniad teyrnasiad Duw a'i llwyddiant yn sicr. Dylai fod yn bwysicach na phopeth arall mewn bywyd (Mathew 6:33).