Mth 21:1-17

 

Dyma'r Brenin addfwyn, Tywysog Heddwch go iawn, yn marchogaeth i'r ddinas ac yn cyflawni proffwydoliaethau Eseia 62:11, Sechareia 9:9 a Salm 118:25-26. Mae'n mynd i’r deml, ac mewn protest drawiadol, yn gwneud safiad yn erbyn trefn anghyfiawn y sefydliad crefyddol, a'r agwedd gul oedd yn gwbl groes i’r gwahoddiad agored a’r croeso oedd Duw yn ei roi i bobl o bob cenedl ddod a galw ar ei enw (Eseia 56:7; Jeremeia 7:11).