Mth 5:17-48

 

Roedd Duw wedi dweud yn yr Hen Destament beth oedd ganddo eisiau, a beth oedd yn bwriadu ei wneud. Roedd Iesu’n troi y cwbl yn realiti. Doedd e ddim wedi dod i newid a disodli'r cwbl oedd wedi cael ei ddweud yn y Gyfraith a gan y proffwydi.
Roedd Iesu’n dangos beth oedd wrth wraidd, a beth oedd ystyr llawn, y gorchymyn gwreiddiol. Roedd yn dangos fod yr hyn oedd y Phariseaid ac athrawon y Gyfraith yn ddweud am ystyr yr ysgrifau sanctaidd yn arwynebol - ac mae'n rhoi enghreifftiau o hynny.