Mth 5:20

 

Yng ngolwg y Phariseaid y tair elfen bwysicaf i fyw bywyd cyfiawn oedd rhoi elusen, gweddïo ac ymprydio. Rhoi elusen oedd y pwysicaf o’r tri yn eu golwg nhw, ac erbyn dyddiau Iesu roedden nhw’n tybio fod gwneud hynny’n gyfystyr â ‘byw’n gyfiawn’. Roedd y gair ‘cyfiawnder’ (sy’n golygu llawer mwy na hynny yn yr Hen Destament) wedi ei gyfyngu i’r weithred hon o roi arian i’r tlodion. Wrth gwrs, roedd y ‘cyfiawnder’ y soniai’r proffwydi amdano yn llawer mwy na hyn – gw. e.e. Eseia 58.