Mth 5:43-45

 Roedd rhai Iddewon wedi cymryd y gorchymyn i garu cymydog (cyd-Iddew) yn Lefiticus 19:17-19, a rhesymegu fod y gwrthwyneb yn wir hefyd – sef y gellid casáu rhywun “o’r tu allan” (gelyn). Dyma oedd yr Eseniaid yn ei wneud, er enghraifft. Roedden nhw yn gweld eu hunain ar ochr Duw, ac yn credu y byddai’r diwrnod yn dod pan fyddai Duw yn dinistrio pawb oedd ddim yn perthyn i’w cymuned nhw. Yn y ‘Llawlyfr Hyfforddi’ (Manual of Discipline) maen nhw’n cael eu hannog “i garu pawb mae Ef wedi eu dewis a chasáu pawb mae Ef wedi eu gwrthod” (1QS 1.3-4)