Mae’n debyg mai cefndir y gosodiad “dyn ni eisiau i dy enw di gael ei anrhydeddu” (neu “sancteiddier dy enw” – BCN) ydy Eseciel 38:23. Roedd yr idiom Hebreig “sancteiddio’r Enw” yn aml yn cyfeirio at rywun oedd yn fodlon marw dros yr hyn oedd yn ei gredu. Mae midrash ar Lefiticus 22:32 yn dweud:
Dylid deall “peidiwch â halogi” i olygu “Sancteiddiwch.” A phan mae E’n dweud “rhaid fy sancteiddio,” mae’n golygu “aberthwch eich bywyd fel merthyr a sancteiddio fy enw.” (Sifra ar Lefiticus 22:32;99d)