Mynydd Seion

 

• Ystyr posibl yr enw ydy “heulog” neu “uchder”
• Cafodd Jerwsalem ei hadeiladu ar graig o’r enw Mynydd Seion.. Roedd hen gaer yno yn perthyn i’r Jebwsiaid. Dyna enw’r llwyth oedd yn byw yng Nghanaan cyn i’r Israeliaid gyrraedd yno o wlad yr Aifft, ar ôl i Moses ac yna Josua arwain y genedl i’r wlad roedd Duw wedi ei gaddo iddyn nhw.
• Mae dyffrynnoedd dwfn ar dair ochr y graig (ond nid ar yr ochr ogleddol).
• Cafodd Seion ei choncro gan y Brenin Dafydd, (tua 1000 C.C.) a daeth yn brifddinas iddo. Adeiladodd balas iddo’i hun yno. (gweler 2 Samiwel 5:7) Cafodd ardal dde ddwyrain Jerwsalem ei hadeiladu ar safle’r hen Seion.
(gweler Hebreaid 12:22; Datguddiad 14:1)