Yn wahanol i’r proffwydi eraill, dydy Nahum ddim yn cyhoeddi barn ar ei wlad ei hun (sef Jwda). Mae’n cyhoeddi barn Duw ar Ninefe, prifddinas Assyria. Assyria oedd y prif rym gwleidyddol yn y Dwyrain Canol ers 300 mlynedd. Tua 150 o flynyddoedd cyn dyddiau Nahum roedd Duw wedi anfon y proffwyd Jona i gyhoeddi y byddai Ninefe’n cael ei dinistrio, a bryd hynny roedd pobl Ninefe wedi edifarhau. Ond aethon nhw yn ôl i’w hen ffyrdd creulon yn fuan iawn.
Daeth proffwydoliaeth Nahum yn wir yn y flwyddyn 612 C.C. pan goncrodd y Mediaid a’r Babiloniaid y ddinas. Gafodd hi byth ei hail-adeiladu.