Neidr wenwynig oedd symbol yr Aifft, ac mae Duw yn anfon nadroedd atyn nhw i atgoffa’r bobl mai marwolaeth oedd yr Aifft yn ei gynnig iddyn nhw. Mae Duw yn dweud wrth Moses am wneud delw o’r union beth oedd yn achosi’r broblem. A dyna wnaeth Duw pan ddaeth i’r byd fel person dynol i farw ar y groes. Mae’r darlun yma yn cael ei ddefnyddio yn y Testament Newydd i ddisgrifio pam fu Iesu farw ar y groes (gw. Ioan 3:14-15).
Numeri 21:8
|