Perga

 

• Roedd Perga yn ddinas hen iawn, 5 milltir o’r môr, tua 12 milltir i’r gogledd ddwyrain o Atalia (Antalya yng ngwlad Twrci heddiw). Roedd yn le braf i fyw gan fod yr afon Cestrus yn darparu digon o ddŵr i’r ddinas.
• Dyma ganolfan grefyddol ardal Pamffylia. Roedd teml i’r duw Artemis yn sefyll ar fryn yn agos at y ddinas. Roedd adeiladau gwych yn y ddinas yn y ganrif gyntaf – pyrth a thyrrau mawr, dyfrbont (aqueduct), ac adeiladau cyhoeddus eraill. Mae rhai adfeilion i’w gweld yno hyd heddiw.
• Pan ddechreuodd Paul a Barnabas ar y gwaith o genhadu aeth dyn ifanc o’r enw Ioan Marc gyda nhw. Ond trodd Ioan Marc yn ei ôl yn Perga. Ar ôl hynny roedd Paul yn amharod i weithio gyda Ioan Marc.
(gweler Actau 13:13; 14:25)