Phygelus

 

Cymeriad yn y Testament Newydd, o gyfnod yr Eglwys Fore. Mae Paul, yn ei ail lythyr at Timotheus yn dweud ei fod ef a Hermogenes, a phawb yn Asia, wedi troi cefn arno. Torron nhw gysylltiad hefo Paul pan oedd yn disgwyl cefnogaeth ganddyn nhw. Mae’n amlwg o ddarllen y llythyr fod Timotheus yn gwybod beth oedd wedi digwydd, ond does dim cofnod ohono yn y Testament Newydd.
(gweler 2 Timotheus 1:15)