Mae’r bennod hon yn agor gyda cherdd (adn.1-8) sy’n dweud fod “amser i bob peth”. Mae pobl yn deall hynny, ond yn methu amgyffred yn llawn bopeth mae Duw yn ei wneud, dim ond sefyll a rhyfeddu (adn.1-15).
Yna mae ail hanner y bennod yn son am yr anghyfiawnder a’r llygredd mewn bywyd. Mae profiadau bywyd yn ailadrodd eu hunain, ond bydd Duw yn barnu ac yn dod â’r gwir i’r golwg yn y diwedd.