Pregethwr 3:20

Yn Genesis 2:7 cawn ddisgrifiad o Dduw yn creu dyn “o’r pridd” (gw. hefyd 1 Corinthiaid 15:47).  Yna yn Genesis 3:19 mae Duw yn dweud wrth y dyn y bydd yn marw ac yn mynd yn ôl i’r pridd.  Y cwestiwn mae’r Pregethwr yn ei ofyn yma ydy “Oes mwy i fywyd?”  Ac eto yn adn.11 mae’n awgrymu fod yna ddimensiwn arall i’n bodolaeth, a bod Duw wedi gwneud pobl “yn ymwybodol o’r tragwyddol.”