Rachel

 

Cymeriad yn yr Hen Destament o gyfnod y Patriarchiaid. Merch ieuengaf Laban. Ail wraig Jacob, a mam ei ddau fab ifancaf - Joseff a Benjamin.
• Roedd hi’n wraig brydferth, ond doedd hi ddim yn wraig egwyddorol iawn.
• Methodd â chael plant i ddechrau, yna cafodd Joseff ei eni.
• Bu farw wrth eni Benjamin. Cafodd ei chladdu rhwng Bethel a Bethlehem. Cododd Jacob biler uwch ei bedd.
(gweler Genesis 29:6-31; 30:1-8; 31:4-5,14-16,19,32-35; 33; 35:16-20; Jeremeia 31:15; Mathew 2:18)