Rhoda

 

Cymeriad yn y Testament Newydd o gyfnod yr Eglwys Fore. Ystyr yr enw ydy ‘rhosyn’. Roedd Rhoda yn forwyn yn nhŷ mam Ioan Marc yn Jerwsalem, tŷ oedd yn cael ei ddefnyddio gan yr eglwys gynnar fel lle i gyfarfod. Cafodd Pedr ei roi yn y carchar, ond cafodd ei ryddhau yn wyrthiol. Anfonodd Duw angel i’r carchar i’w helpu i ddianc. Wedi cyrraedd y stryd, aeth Pedr i dŷ Mair lle roedd nifer o Gristnogion yn gweddïo. Cafodd Rhoda ei hanfon i ateb y drws ar ôl i Pedr ei guro. Cafodd hi’r fath sioc o glywed llais Pedr, anghofiodd hi agor y drws, a rhedeg yn syth i ddweud wrth bawb fod Pedr yn rhydd. Doedd neb yn ei chredu, ac roedd Pedr yn dal i sefyll yn curo wrth y drws tra roedd pawb arall yn dadlau! Yn y diwedd, cafodd Pedr fynd i mewn ac adrodd hanes beth oedd wedi digwydd iddo..
(gweler Actau 12:13)