Rhuf 14:1-15:13

 

Does dim rhaid i Gristnogion gytuno â'i gilydd am bob peth i gael perthynas dda â'i gilydd. Sail undod Cristnogol ydy fod pobl yn dangos cariad Iesu Grist yn eu perthynas â'i gilydd. Dylai pobl feddwl bob amser am les y person arall. Ond mae pobl fel arfer eisiau perswadio pobl eraill i feddwl yr un fath â nhw. Mae pobl yn barnu a beirniadu ei gilydd pan mae’u cydwybod yn eu harwain nhw i gasgliadau gwahanol. Dylai lles pobl eraill reoli ein hymddygiad bob amser. Mae'r Cristion i fod yn anhunanol, am mai person felly oedd Iesu.