Rhuf 5:1-11

 

A ninnau wedi'n derbyn i berthynas iawn gyda Duw trwy gredu ynddo, dyn ni’n gallu gorfoleddu pa mor anodd bynnag ydy'n hamgylchiadau ni. Mae Iesu wedi marw droson ni (cf. 1 Pedr 2:24; Eseia 53:5-11) i ddod â ni i berthynas iawn â Duw – a dyna sut dyn ni’n mynd i gael ein hachub rhag cael ein cosbi gan Dduw (1 Thesaloniaid 1:9-10).