Salm 104

Emyn o fawl i’r Crëwr ydy’r Salm yma.  Mae hi wedi cael ei disgrifio fel Genesis 1 ar ffurf barddoniaeth.  Mae’r Salmydd yn rhyfeddu at ogoniant, manylder a pherffeithrwydd gwaith Duw yn y greadigaeth.  Fo hefyd sy’n cynnal y cwbl (cymh. Salm 145:15,16; Genesis 1:29,30; Mathew 6:25-34). (Dylai’r gwirioneddau yma beri i ni sylweddoli fod Duw yn gofalu amdanon ni hefyd – ac felly ein lle ni ydy rhoi blaenoriaeth i’w deyrnasiad o yn ein bywydau).  Mae’r cwbl yn gwefreiddio’r salmydd ac yn ei gymell i foli Duw.